Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2

Dyddiad: Dydd Iau, 7 Mehefin 2018

Amser: 09.32 - 14.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
4825


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Rhun ap Iorwerth AS (Cadeirydd dros dro)

Dawn Bowden AS

Angela Burns AS

Caroline Jones AS

Julie Morgan AS

Lynne Neagle AS

Tystion:

Nadine Morgan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Rhiannon Jones, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Will Beer, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Su Mably, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Jonathan Drake, Heddlu De Cymru

Bleddyn Jones, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Alison Kibblewhite, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Claire Bevan, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Stephen Clarke, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Nigel Rees, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Kenny Brown, Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth EM

Sophie Lozano, Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth EM

Ian Stevens, Network Rail

Mark Cleland, Heddlu Trafnidiaeth Prydain

Staff y Pwyllgor:

Catherine Hunt (Ail Glerc)

Tanwen Summers (Dirprwy Glerc)

Philippa Watkins (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dai Lloyd AC, ac, fel y cytunwyd ar 23 Mai 2018, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, penodwyd Rhun ap Iorwerth yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn.

1.3        Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC hefyd.

</AI1>

<AI2>

2       Atal hunanladdiad: Sesiwn dystiolaeth â chynrychiolwyr Byrddau Iechyd Lleol a Iechyd Cyhoeddus Cymru

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fyrddau Iechyd Lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

2.2 Cytunodd Nadine Morgan i roi enghreifftiau o arfer gorau o ran hyfforddiant staff. Cytunodd Rhiannon Jones, Will Beer a Nadine Morgan i roi data ar gyfran y cleifion a welir o fewn pum diwrnod yn unol â chynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ar gyfer 2016-19.

</AI2>

<AI3>

3       Atal hunanladdiad: Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr y gwasanaethau brys

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o wasanaethau brys.

</AI3>

<AI4>

4       Atal hunanladdiad: Sesiwn dystiolaeth ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

 

</AI4>

<AI5>

5       Atal hunanladdiad: Sesiwn dystiolaeth â Gwasanaeth Carchardai a Gwasanaeth Prawf EM

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Wasanaethau Carchardai a Phrofiannaeth EM.

5.2 Cytunodd Kenny Brown i ystyried ymhellach nifer yr achosion o hunanladdiad ymhlith troseddwyr yng Nghymru y nodwyd eu bod 'mewn perygl' ac yn cael eu rheoli o dan weithdrefnau Asesu, Gofal yn y Ddalfa a Gwaith Tîm (ACCT) ac i ysgrifennu at y Pwyllgor.

 

</AI5>

<AI6>

6       Atal hunanladdiad: Sesiwn dystiolaeth â Network Rail

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Network Rail.

6.2 Cytunodd yr Uwch-arolygydd Mark Cleland i roi enghreifftiau o astudiaethau achos lle roedd dull amlasiantaethol, gan gynnwys Network Rail, wedi bod yn llwyddiannus.

</AI6>

<AI7>

7       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

7.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

</AI7>

<AI8>

8       Atal hunanladdiad: trafod y dystiolaeth

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>